Am Alun

Gwybodaeth Am Alun Pugh

Wedi ei eni i mewn i deulu glowyr yn 1995.  Hanes ei deulu sydd wedi lliwio ei farn ef ar Gymru ac fod angen creu cymdeithas ar y sylfaenau o gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.

"Wedi dychwelyd o'r ffosydd yn 1918, aeth fy nhaid - a oedd yn siarad Cymraeg - o Aberystwyth i'r Rhondda i chwilio am waith  yn y pyllau glo. Gadawodd fy nhad yr ysgol yn 15 oed i weithio yn y pwll glo Cambrian yn Blaenclydach.  Gweithiodd yno tan i'r pwll gau yn dilyn y trychineb yn 1965.  Roeddwn yn naw oed ac rwy'n cofio'r diwrnod yn iawn - cael fy ngyrru adref o'r ysgol yn fuan.  Trosglwyddwyd fy nhad i'r pwll "Cwm Colliery" ble oedd yn rhan o'r streiciau yn 1974 ac 1984.  Er nad oedd yn siarad gair o Gymraeg roedd yn deall yn iawn y teimlad tu ol i'r arwydd "Nid oes bradwr yn y ty hwn" o'r streic chwarael Bethesda.

"Roedd mam yn gweithio fel nyrs yn yr un pwll glo.  Wedi i'r pwll gau aeth hi i weithio fel nyrs ardal.

"Roeddwn i yn ffodus i fynd i Ysgol Ramadeg Tonypandy pan oeddwn yn 11 oed - ni chafodd nifer o'm ffrindiau y cyfle yma oherwydd yr arholiad "11 plus" - ac wedyn es i Goleg Polytechnig Cymru ar ol fy lefel A. Graddiais gyda gradd anrhydedd mewn cyllid busnes ac wedyn treuliais flwyddyn fel Lywydd Undeb Myfyrwyr.

  "Cychwynais fy ngyrfa dysgu yng Ngholeg Pen-y-Bont Ar Ogwr, wedyn symudais i Newcastle Upon Tyne yn yr 80au.  Dychwelais i Gymru yn 1992 pan cefais swydd fel Pennaeth Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Llandrillo. 

 Yn aelod o'r Blaid Lafur erioed ond fel gwirfoddolwr yn hytrach nac ymgeisydd ar adegau etholiadau.  Newidiodd hynny yn 1999 pan gefais fy newis i sefyll dros Llafur yn etholaeth Gorllewin Clwyd, a cefais y fraint o fod yn un o'r 60 aelod Cynulliad cyntaf.  Wedi fy ail-ethol yn 2003, apwyntwyd fi fel Gweinidog dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeol gan Rhodri Morgan.  Ond mae gwleidyddiaeth yn gem galad a collais fy sedd yn 2007.

   Ar ol hyn gefais swydd fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, elusen amgylcheddol sy'n gweithio ar draws Gwynedd.  Mae'r elusen yn rhedeg prosiectau glanhau i fyny ac yn ymgyrchu ar faterion fel gwella trafnidiaeth cyhoeddus.  Rwyf yn cynghori'r ymmiriedolwyr ac fi yw'r llais cyhoeddus ar gyfer polisiau y pwyllgor gwaith etholiedig.  Gan mai elusen bach yw hon, fi syd hefyd yn sortio'r biniau ailgylchu, agor y post ac thrwsio'r llungopiwr.  Tu allan i gwaith dwi'n hoffi cerddeg ar fryniau Gwynedd yn y gaeaf ac beicio o gwmpas y Parc Cenedlaethol yn yr haf.  Rwyf wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn ac wedi ymdrechu'n galed, rwyf yn hapus cyfrannu i Radio Cymru ac S4C, ond dwi'n dal i ymarfer."  

 

Yn y Cynulliad Cenedlaethol, bu Alun yn arwain yr ymgyrch i ddiogelu iechyd plant ac oedolion rhag effaith ysmygu, drwy hel cefnogaeth i gael gwared o ysmygu mewn mannau cyhoeddus.  Yn gefnogwr cryf o gynyddu pwerau y Cynulliad, roedd yn flin iawn fod wedi cymryd nifer o flynyddoedd i gael y deddfwriaeth yma mewn lle, er gwaethaf cefnogaeth traws bleidiol. 

Mae Mary, priod Alun, yn dysgu plant hyn gyda anableddau dysgu ac ar yr un pryd yn dilyn cwrs ol-raddedig yng Ngholeg Brifysgol Bangor.